Ar Galfaria un prydnawn

(Gorchfygu Lluoedd Uffern)
Ar Galfaria un prydnawn,
  Byth mi gana',
Fe gaed buddugoliaeth lawn,
  Haleliwia,
Ar holl luoedd uffern fawr,
  Ac ar angau;
Iachawdwriaeth fawr ei dawn
  Ddaeth i minau.

Dyma'r Aberth mae erioed
  Son am dano;
Ar y ddaear 'does yn bod
  Debyg iddo:
Mae seraphiaid pena'r nen
  Yn rhyfeddu
Gwel'd eu Brenin ar y pren,
  Yno'n trengu.

Nid oes terfyn byth i'w gael
  Ar ei gariad;
Mae'i drysorau mawrion hael
  Uwch ein dirnad;
Ynddo'u Hunan y mae'n llwyr
  Oll ddymuna
F'enaid egwan fore a hwyr
  Haleliwia!
1: Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
2-3: William Williams 1717-91

Tonau [7474D]:
  Glynarfon (D Hughes, Bryncrug.)
Llanfair (Robert Williams 1782-1818)

gwelir:
  Bugail yw fe roes ei waed
  Mi a gredaf yn fy Nuw
  Caned nef a daear lawr
  Myn'd a wnaf dan godi'm llef
  Nid oes aberth o un rhyw

(Overcoming the Hosts of Hell)
On Calvary one afternoon,
  I shall ever sing,
A full victory was got,
  Hallelujah!
Over all the hosts of great hell,
  And over death;
And the great gift of salvation
  Came to me.

Behold the Sacrifice that ever there is
  Mention of;
On the earth there is not
  His like:
The chief seraphim of heaven are
  Wondering
To see their King on the tree,
  There expiring.

There is no ending ever to be got
  To his love;
His great generous treasures are
  Above our grasp;
In himself is completely
  All that my weak soul
Shall wish morning and evening
  Hallelujah!
tr. 2022 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~